Charteris allan am y tymor?
- Cyhoeddwyd

Mae'n ymddangos na fydd clo Cymru, Luke Charteris, yn medru chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi iddo gael anaf wrth chwarae i'w glwb Perpignan ddydd Sadwrn.
Dywed adroddiadau o Ffrainc fod Charteris wedi rhwygo gewyn yn ei ben-glin yn y gêm rhwng Perpignan a Montpellier, a bod disgwyl iddo fethu gweddill y tymor.
Mae hynny'n golygu, mwy na thebyg, na fydd yn medru bod yn rhan o garfan y Llewod fydd yn teithio i Awstralia yn haf 2013.
Eisoes mae Cymru wedi colli gwasanaeth Rhys Priestland ac Aaron Jarvis o'u cynlluniau ar gyfer y Chwe Gwlad.
Cafodd Priestland anaf difrifol i wäell y ffêr wrth chwarae i'r Scarlets yn erbyn Caerwysg yng Nghwpan Heineken, ac fe gafodd Jarvis anaf i'w ben-glin yn erbyn Seland Newydd ddiwedd mis Tachwedd.
Ymhlith yr enwau eraill ar y rhestr anafiadau ar hyn o bryd mae Alun Wyn Jones (ysgwydd), Ian Evans (pen-glin), Jamie Roberts a Leigh Halfpenny.
Bydd Cymru'n ceisio amddiffyn eu coron yn y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd ar Chwefror 2 cyn teithio i Baris i herio Ffrainc ar Chwefror 10.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012