BBC Cymru Fyw

Abertawe 1-1 Manchester United

Published
image captionMichu ddaeth ag Abertawe'n gyfartal wedi hanner awr

Abertawe 1-1 Manchester United

Roedd hi'n frwydr y prif sgorwyr yn Stadiwm Liberty gyda Michu o'r Elyrch a Robin van Persie o United ar frig y rhestr sgorwyr yn yr Uwchgynghrair.

Ond enw annisgwyl gafodd y gôl gynta' wedi chwarter awr. Van Persie gymrodd y gic gornel, ond y cefnwr Patrice Evra oedd wrth law i benio'r bêl i'r rhwyd i roi'r ymwelwyr ar y blaen.

Roedd hynny'n ysgogiad i dîm Michael Laudrup, ac Abertawe oedd yn gyfrifol am lawer o'r cyfleoedd gorau am weddill yr hanner cyntaf.

Daeth y gôl i unioni'r sgôr wedi hanner awr. Roedd hi'n gôl fler, gyda chynnig Jonathan De Guzman yn adlamu at droed Michu iddo gael ychwanegu at ei gyfanswm am y tymor.

Roedd David De Gea, golwg United, yn fwy prysur na Michel Vorm oedd yn dychwelyd i dîm Abertawe am y tro cyntaf ers iddo gael anaf ddechrau'r tymor. Llwyddodd De Gea i arbed cynigion gan Dyer, Michu a De Guzman.

Dros y 90 munud roedd hi'n syndod o gyfartal o safbwynt meddiant, ergydion at y gôl a cherdiau melyn wrth i ambell un golli amynedd gyda'r sefyllfa.

Roedd un digwyddiad arbennig o gas pan giciodd Ashley Williams y bêl at ben Robin Van Persie, ac mae rheolwr Manchester United, Sir Alex Ferguson, wedi galw am wahardd Williams gan ddweud y gallai fod wedi lladd yr Iseldirwr.

Roedd Williams yn mynnu mai damwain oedd y digwyddiad.

Wrth i'r gêm dynnu tua'i therfyn, roedd y pwysau'n cynyddu gan yr ymwelwyr gyda Van Persie a Carrick yn taro'r trawst.

Ond llwyddodd tîm Michael Laudrup i wrthsefyll y pwysau i gipio pwynt pwysig yn dilyn dwy golled.

Straeon perthnasol

  • Abertawe 2-1 Wigan