Hwb ariannol drama deledu
- Cyhoeddwyd

Bydd drama dditectif newydd i deledu yn dod â £4.2 miliwn i'r economi ac yn creu swyddi newydd, medd Llywodraeth Cymru.
Mae'r gyfres 'Mathias' yn cael ei pharatoi yn Gymraeg a Saesneg ('Hinterland' fydd yr enw Saesneg) yn ardal Aberystwyth ar gyfer S4C a'r BBC.
Mae'r cynhyrchwyr wedi derbyn £215,000 gan Lywodraeth Cymru fel cyllid busnes y bydd rhaid ei ad-dalu.
Yn gynharach yn y mis, datgelwyd bod y cwmni teledu o Ddenmarc sy'n gyfrifol am y gyfres 'The Killing' wedi prynu'r gyfres.
Mae'r comisiynwyr yn DR Denmark yn credu y bydd tirlun Cymru yn apelio at wylwyr y wlad.
Seren y gyfres fydd yr actor Richard Harrington, sy'n chwarae rhan Ditectif Prif Arolygydd Tom Mathias.
Yn ogystal, bydd rhai o actorion mwyaf adnabyddus Cymru yn ymddangos yn ystod y gyfres gan gynnwys Sian Phillips, Mathew Rhys, Ioan Gruffydd a Rhys Ifans.
Fe fydd y gyfres yn cael ei ffilmio tan fis Mai 2013, ac fe fydd y gwaith ôl-gynhyrchu yn digwydd yng Nghaerdydd.
'Cyfle gwych'
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cyllid ar gyfer 'Mathias' yn creu gwaith i ugeiniau o bobl yn y sector ffilm, ac yn sicrhau y byddai'r prosiect yn digwydd yng Nghymru gan sicrhau £4.2m i economi Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart: "Mae hwn yn gyfle gwych arall i'r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru i ddangos y talent a'r gallu sydd ar gael yng Nghymru.
"Rwy'n arbennig o falch i bydd 'Mathias' yn cynnig cyfle am waith i dalent ifanc Cymru, ac fe fydd y prosiect hefyd yn creu budd economaidd i ystod eang o fusnesau gan gynnwys llety a thwristiaeth."
Yn y gyfres, mae DPA Tom Mathias yn symud i Aberystwyth er mwyn cael dechreuad newydd.
Dywed S4C ei fod yn defnyddio dulliau anarferol i sicrhau cyfiawnder, ond mae'n gymeriad sy'n teimlo'n euog am ei orffennol.
Bydd 'Mathias', sy'n cael ei gynhyrchu gan Fiction Factory, yn darparu swyddi i 80 o weithwyr llawrydd dros 12 mis.