Beiciwr modur 38 oed wedi marw
- Published
Mae beiciwr modur 38 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yn Sir y Fflint.
Roedd Carl Steven Limbert yn dod o Queensferry.
Digwyddodd y ddamwain, yn ymwneud â char Vauxhall Corsa coch, ger Bwcle am 12:15pm ddydd Sul.
Dylai unrhyw dystion gysylltu â'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol