Apêl heddlu wedi ymosodiad rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i ymosodiad rhyw yn Abertawe dros y penwythnos.
Mae menyw 21 oed yn dweud bod dyn wedi ymosod arni yn y maes parcio tu ôl i dafarn y Cross Keys rhwng 2am a 3.15am ddydd Sadwrn.
Mae'r heddlu yn chwilio am ddyn gwyn, gyda gwallt byr iawn, tua 5 troedfedd 9 modfedd, oedd yn siarad gydag acen dramor.
Gall pobl ffonio'r heddlu ar 101, neu elusen Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol