Rhyddhau tri ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn gafodd eu harestio a'u cyhuddo o ladrata o gwpwl oedrannus yn Sir y Fflint nos Wener wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Ymddangosodd Jamie John Morgan, 26 oed o Gei Connah, ei frawd Richard Thomas Morgan, 22 oed o Dreffynnon a Michael Davies Griffiths, 31 oed o Queensferry, gerbron ynadon yn yr Wyddgrug ddydd Llun.
Byddan nhw gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug yn y flwyddyn newydd.
Cafodd Leslie Paul Langford, 80 oed a'i wraig Winifred Langford, 87 oed, driniaeth yn yr ysbyty wedi i bobl dorri mewn i'w cartref.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y cwpwl wedi eu gwthio i'r llawr wedi iddyn nhw weld lladron yn eu cartref ym Mwcle tua 9:20pm.
Straeon perthnasol
- 23 Rhagfyr 2012