Adfer cyflenwad dŵr
- Published
Dywed Dŵr Cymru eu bod wedi atgyweirio pibell ddŵr sydd yn cyflenwi tua 10,000 o gwsmeriaid yn ardal Caerfyrddin.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni mai cyflwr llifogydd ar afon Tywi wnaeth achosi'r difrod ddydd Llun.
"Fe wnaeth ein gweithwyr weithio mewn amgylchiadau anodd a thywydd garw i ddarganfod a thrwsio'r nam," meddai llefarydd.
"Ni effeithiwyd ar gyflenwadau dŵr i'r ardal. Er hynny fe wnaeth Dŵr Cymru ddarparu cyflenwadau wrth gefn mewn tanciau plastig rhag ofn bod eu hangen.
"Hoffwn ddiolch i gwsmeriaid am fod yn amyneddgar ac am gydweithio gyda ni er mwyn datrys y broblem.
Fe wnaeth y glaw trwm hefyd achosi trafferthion i deithwyr.
Ddydd Sul roedd theithiau trên rhwng de Cymru a Llundain yn cymryd 45 munud yn fwy oherwydd llifogydd yn ardal Swindon.
Mae'r Ras Genedlaethol Gymreig i geffylau oedd i fod i gael ei chynnal yng Nghas-gwent ar Ragfyr 27 wedi cael ei gohirio tan Ionawr 5 oherwydd bod y cae o dan ddŵr.
Straeon perthnasol
- Published
- 23 Rhagfyr 2012
- Published
- 22 Rhagfyr 2012