Arestio dyn ar ôl llofruddiaeth Diwrnod Nadolig
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddynes gael ei chanfod yn farw yn Sir Gaerfyrddin ar Ddiwrnod Nadolig.
Cafodd heddlu Dyfed Powys eu galw i gyfeiriad ym Maes Yr Ysgol yng Nghaerfyrddin tua 10.50am ddydd Mawrth.
Cafwyd hyd i gorff dynes 37 oed yn y tŷ.
Mae dyn lleol 28 oed wedi cael ei arestio.
Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn Maes Yr Ysgol rhwng 5pm ar Noswyl Nadolig ac 11am Ddydd Nadolig i gysylltu gyda nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod swyddogion arbennig yn cynnig cefnogaeth i'r teulu.
"Mae'r gymuned yn parhau i gefnogi'r heddlu gyda'u hymchwiliad a hoffem ddiolch iddyn nhw am eu cymorth," meddai.
"Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu yn lleol ar 101."