Wrecsam 4-1 Telford

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed WrecsamFfynhonnell y llun, Other

Wrecsam 4-1 Telford

Cafodd Wrecsam fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Telford ar y Cae Ras Ddydd San Steffan.

Fe sgoriodd Brett Ormerod wedi dau funud i roi mantais gynnar i'r tîm cartref.

Wedi awr o chwarae fe aeth y Dreigiau ymhellach ar y blaen wrth i Nick Rushton ergydio cyn i Danny Wright ganfod y rhwyd ddeg munud yn ddiweddarach.

Ormerod oedd yn gyfrifol am bedwaredd gôl Wrecsam wedi 71 munud.

Daeth gôl gysur i'r ymwelwyr wedi 73 munud wedi i Jake Read ganfod cefn ei rwyd ei hun.

Ar y cyfan mae'n debyg na fydd rheolwr chwaraewr Wrecsam, Andy Morrell, yn gwbl fodlon o'r perfformiad ond yn sicr fe fydd yn fodlon iawn gyda'r tri phwynt.

Parhau yn drydydd y tu ôl i Grimsby a Chasnewydd y mae Wrecsam, y ddau dîm arall hefyd yn llwyddo i ennill.