Forest Green 1-2 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed CasnewyddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae hi'n dal yn agos ar frig y gynghrair

Forest Green 1-2 Casnewydd

Er eu bod wedi cael buddugoliaeth fydd Casnewydd ddim yn esgyn i frig y gynghrair gan fod Grimsby wedi ennill yn ogystal.

Pwynt o wahaniaeth sydd rhwng y ddau dîm gyda Wrecsam hefyd yn agosau at Gasnewydd.

Di-sgôr oedd hi ar yr hanner yn y gêm ar Ddydd San Steffan.

Ond fe wnaeth y tîm cartref sgorio dri munud wedi'r ail ddechrau.

Llwyddodd Steve Brogan i ganfod y rhwyd wedi croesiad o'r chwith.

Ond daeth yr ymwelwyr yn ôl pan wnaeth gôl geidwad Forest Green, Sam Russell, wneud camgymeriad o'r gic gornel gyda chic Ben Swallow yn mynd yn syth i gefn y rhwyd.

Yna llwyddodd Ryan Charles i roi'r ymwelwyr ar y blaen cyn i Jamie Turley weld ail gerdyn felyn yn y gêm a'i anfon oddi ar y cae.

Y tîm cartref felly yn gorffen gyda 10 dyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol