Caerdydd yn cael buddugoliaeth yn erbyn Crystal Palace

  • Cyhoeddwyd

Caerdydd 2-1 Crystal Palace

Parhau ar frig y bencampwriaeth y mae Caerdydd wedi buddugoliaeth yn erbyn Crystal Palace yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae ganddyn nhw fantais bellach o bum pwynt ar y brig a'u hymdrech i ennill dyrchafiad gam yn nes.

Wedi tri munud a hanner yn unig fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi i Mile Jedinak rwydo o gic cornel gan Owen Garvan.

Ond funud cyn yr hanner cafodd Yr Adar Gleision gôl wrth i Craig Noone rwydo.

Eilydd allweddol

Roedd yr hanner cyntaf yn ddiflas a Chaerdydd yn fflat.

Ac fe allai Palace fod wedi gallu sgorio ar fwy nag un achlysur cyn yr hanner.

Ond stori cwbl wahanol oedd hi yn yr ail hanner.

Fe ddaeth Caerdydd yn ôl gyda'r eilydd Aron Gunnarsson yn cael ail gôl y tîm cartref wedi 72 munud drwy beniad o fewn bocs.

Daeth pwysau gan Palace cyn diwedd y gêm i geisio cael gôl ond doedd 'na ddim gôl gysur.

Gall y tri phwynt fod yn allweddol i obeithion Caerdydd ac yn fuddugoliaeth fawr i dîm Malky Mackay.

Roedd 'na record o ran nifer y dorf ar gyfer gêm Caerdydd yn y stadiwm gyda 26,098 yn gwylio'r gêm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol