BBC Cymru Fyw

Y Gweilch 32-3 Scarlets

Published
image copyrightHuw Evans picture agency

Roedd goruchafiaeth pac y Gweilch yn ormod i'r Scarlets wrth i'r tîm cartref orffen y tymor ar dân.

Yn yr hanner cyntaf fe wnaeth cryfder sgrym y Gweilch sicrhau cais gosb.

Fe wnaeth y clo James King groesi'r llinell ar gyfer yr ail gais, gyda Kahn Fotuali'i yn sgorio trydydd cais y Gweilch.

Yn gynharach yn y gêm fe wnaeth Fotuali'i sgorio cic adlam ac roedd yna 14 o bwyntiau o esgid dan Biggar.

Daeth unig bwyntiau'r Scarlets o gig gosb Aled Thomas.

Fe gafodd Rob McCusker a Gareth Owen o'r Scarlets eu hanfon o'r cae, gyda thri o dîm yr ymwelwyr hefyd yn cael eu hanfon i'r gell gosb.