Yr heddlu yn dal i holi dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth ar Ddydd Nadolig
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys yn dal i holi dyn 28 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Sir Gaerfyrddin.
Cafwyd hyd i gorff dynes 37 oed mewn tŷ ym Maes Yr Ysgol, Caerfyrddin, ar Ddydd Nadolig.
Cafodd yr heddlu eu galw yno tua 10.50am.
Cafodd dyn lleol ei arestio yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu yn apelio ar y cyhoedd oedd yn yr ardal i gysylltu â nhw.
Gwybodaeth
Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal Maes Yr Ysgol rhwng 5pm nos Lun ac 11am ddydd Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod swyddogion arbennig yn cynnig cefnogaeth i'r teulu.
"Mae'r gymuned yn parhau i gefnogi'r heddlu gyda'u hymchwiliad a hoffem ddiolch iddyn nhw am eu cymorth," meddai.
"Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu yn lleol ar 101."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol