Michael Sheen: 'Taflu sbwriel yn arwydd o ddiffyg hunan-barch'

  • Cyhoeddwyd
Michael SheenFfynhonnell y llun, Dirty Jackie Films
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r actor Michael Sheen yn llysgennad i fudiad Cadwch Gymru'n Daclus

Mae'r actor Michael Sheen yn dweud bod pobl sy'n taflu sbwriel yn ei "siomi" a bod y weithred yn dangos diffyg hunan-barch at y gymuned.

Mae'r actor o Bort Talbot yn llysgennad ar gyfer elusen Cadwch Gymru'n Daclus.

Dywedodd yr actor sy'n byw yn Los Angeles, bod Cadwch Gymru'n Daclus wedi gofyn iddo fod yn llysgennad y llynedd ar ôl iddo berfformio mewn cynhyrchiad arbennig ar strydoedd Port Talbot dros Y Pasg.

"Roeddwn i'n meddwl eu bod yn gwneud gwaith ardderchog ac roeddwn wedi gweld effaith hyn yn fy nhref fy hun wedi i Bort Talbot ennill y Faner Las," meddai'r actor sydd wedi ymddangos mewn ffilmiau fel The Queen a Frost/Nixon.

Dywedodd ei fod wedi gweld beth yr oedd y traeth yn ei olygu i bobl ym Mhort Talbot a sut yr oedden nhw wedi cymryd cyfrifoldeb amdano.

Eleni mae Cadwch Gymru'n Daclus yn 40 oed a dywedodd y mudiad mai bonion sigarets sy'n parhau i fod yn un o'r problemau sbwriel gwaethaf.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae bonion sigarets yn parhau i fod yn broblem ar y strydoedd

Mewn ymgais i fynd i afael â'r broblem lansiodd yr elusen ei hymgyrch fwyaf erioed yn gynharach eleni.

Fel rhan o ymgyrch 'Diffoddwch hi, biniwch hi a helpwch i gadw Cymru'n daclus' bu'r mudiad yn dosbarthu blychau llwch yn rhad ac am ddim.

Dywedodd Mr Sheen y byddai'n hoffi petai gan bobl, gan gynnwys ei hun, fwy o ymwybyddiaeth am yr hyn "rydyn ni'n ei wneud i'n hamgylchedd, a beth rydyn ni'n ei wneud i'n hunain".

"Mi wnes i 'smygu am 26 mlynedd, nes i roi'r gorau iddi tua phedair blynedd yn ôl ac yn awr dwi'n difaru bob diwrnod 'mod i erioed wedi smygu," ychwanegodd.

Dywedodd ei bod yn cael ei "siomi'n arw" pan welodd pobl yn taflu sbwriel.

"Mae'n ddigon syml ei bigo i fyny," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol