Gwylwyr y Glannau yn achub dyn yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae Gwylwyr y Glannau wedi achub dyn oddi ar glogwyn yn Sir Benfro wedi iddo fynd i drafferthion ar ôl ceisio achub ei gi.
Cafodd timau achub o Ddinbych-y-pysgod a Sain Gofan eu galw i achub y dyn cyn ei dywys i fan diogel ger Maenorbŷr.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau fod y dyn wedi mynd i drafferthion wrth iddo geisio helpu ei gi oedd yn sownd ar y clogwyn.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol