Cymru yn wynebu her economaidd yn 2013 yn ôl Prif Weinidog Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi galw am i'r wlad uno er mwyn wynebu sialensiau'r economi fyd-eang.
Yn ei neges Flwyddyn Newydd dywedodd y byddai Cymru yn "parhau i wynebu her economaidd real".
Rhoddodd addewid personol i wneud yn siwr y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r economi ac i greu swyddi.
Ychwanegodd fod modd i Gymru dyfu yn wlad fwy cryf er gwaetha'r hinsawdd economaidd.
'Ymrwymiad personol'
"Wrth i ni ffarwelio â 2012, beth am i ni edrych ymlaen yn obeithiol at 2013," meddai.
"Does neb yn gwadu na fydd Cymru, fel gweddill y byd, yn dal i wynebu sialensiau economaidd gwirioneddol iawn.
"Bydd angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd, ac uno fel gwlad i wynebu'r adegau anodd sydd o'n blaenau.
"Ond er mor anodd yw pethau ar hyn o bryd, credaf y gallwn ddod drwyddi'n gryfach fel cenedl.
"Rwy'n rhoi fy ymrwymiad personol y byddaf yn parhau i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gynnal yr economi a helpu i greu swyddi.
"Byddaf yn hybu'r neges fod Cymru yn barod ac yn awyddus i fasnachu â gweddill y byd.
"Mae dechrau'r Flwyddyn Newydd yn adeg i roi gwahaniaethau o'r neilltu a chanolbwyntio ar ein teulu a'n ffrindiau, yn ogystal ag edrych i'r dyfodol.
"Rwy'n dymuno Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011