Rhestr anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
- Cyhoeddwyd
Rhestr lawn o'r Cymry neu'r rhai â chysylltiadau â Chymru sydd ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2013:
Y DREFN YMERODROL BRYDEINIG
David John Brailsford CBE. Cyfarwyddwr Perfformio Seiclo Prydain. Am wasanaeth i seiclo ac i Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Deiniolen / Sir Derby.
John Geraint Davies. Am wasanaethau gwirfoddol ac elusenol yng Nghymru. Penarth Bro Morgannwg.
Yr Athro Keith Gordon Harding. Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Anafiadau a Chyfarwyddwr Sefydliad TIME, Prifysgol Caerdydd. Am wasanaeth i feddygaeth a gofal iechyd. Caerdydd.
Roger Hugh Williams. Aelod Seneddol Brycheiniog a Maesyfed. Am wasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus. Aberhonddu.
Rodney Simon Berman. Cyn-arweinydd Cyngor Sir Caerdydd. Am wasanaeth i lywodraeth leol a'r gymuned yng Nghaerdydd. Caerdydd.
David Brace. Cadeirydd Dunraven. Am wasanaeth i fusnes ac i elusennau ym Mhen-y-bont. Pen-y-bont ar Ogwr.
Susan Davies. Pennaeth Ysgol Uwchradd Cynffig Pen-y-Bont ar Ogwr. Am wasanaeth i Addysg. Sir Gaerfyrddin.
Dr Clive Lester Grace. Cyn-Gadeirydd Local Better Regulation Office. Am wasanaeth i fusnes a gwasanaethau gwirfoddol. Y Fenni.
Keith John Griffin. Cerddor. Am wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru. Caerdydd.
Dr Keith David Griffiths. Cyn-Gyfarwyddwr therapi a Gwyddoniaeth Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Am wasanaeth i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Caernarfon.
Yr Athro Judith Elizabeth Hall. Cadeirydd Cynghrair Gofal Beirniadol a Sefydlydd Mothers of Africa. Am wasanaethau i anesthetig academaidd a gwasanaethau elusennsol yn Africa. Caerdydd.
Edward Augustus Hayward. Gŵr Busnes. Am wasanaeth i fusnes ac elusennau yng Nghymru. Cas-gwent.
Dr Peter Higson. Cyn-Brif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Am wasanaeth i iechyd, addysg a chefnogaeth i gyn-filwyr. Llanrwst.
Susan Maria Jenkins. Pennaeth Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseph Casnewydd. Am wasanaeth i addysg. Caerdydd.
Olive Newton. Am wasanaeth i faterion cydraddoldeb ac i'r gymuned yng Nghastell-nedd Port Talbot. Pontardawe, Abertawe.
Melvyn Ernest John Nott. Arweinydd Cyngor Sir Pen-y-Bont ar Ogwr. Am wasanaeth i'r gymuned a llywodraeth leol. Sarn, Pen-y-Bont ar Ogwr
Dr Wyn Price. Pennaeth Argyfyngau Llywodraeth Cymru. Am wasanaeth i gynllunio brys yng Nghymru. Pontycymer, Pen-y-Bont ar Ogwr.
Alan Poyner Pritchard. Cyn-Bennaeth Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, Merthyr Tudful. Am wasanaeth i addysg. Caerffili.
Eleanor Mary Simmonds MBE. Nofiwr. Am wasanaeth i chwaraeon Paralympaidd. Abertawe.
Yr Athro John David Williams. Cyn athro meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Am wasanaethau i gleifion gydag afiechydon arennol. Caerdydd.
Andrew James Worthington MBE. Cadeirydd Pwyllgor Llywio'r Gogledd Orllewin Llundain 2012. Am wasanaeth i Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Yr Wyddgrug.
John Thomas Chamberlain. Am wasanaeth i'r gymuned yng Nghemaes Ynys Môn ac Indonesia. Llansadwrn, Ynys Môn.
Mark Colbourne. Seiclwr. Am wasanaeth i seiclo. Sir Fynwy.
Robert Croft. Cricedwr. Am wasanaeth i griced. Abertawe.
Aled Sion Davies. Athletwr. Am wasanaeth i athletau. Caerdydd.
Gareth Wyn Davies. Cyn-Glerc Cyngor Cymunedol Dyffryn Garw, Pen-y-Bont ar Ogwr. Pen-y-Bont ar Ogwr
Christine Evans-Thomas. Sefydlydd Apêl Bucketful of Hope. Am wasanaeth elusenol i gleifion canser yn ne a gorllewin Cymru. Hwlffordd.
Phillip Gyles Hodge. Swyddog gweinyddol gyda'r DVLA yn Abertawe. Am wasanaeth i leihau twyll trafnidiaeth. Abertawe.
Anthony Hughes. Rheolwr Perfformio Cenedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru. Am wasanaeth i Chwaraeon Paralympaidd a Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Bro Morgannwg.
Dr Mahdi Mabruk Jibani. Ymgynghorydd yn Ysbyty Gwynedd. Am wasanaeth i feddygaeth. Llanfairpwll.
Jade Jones. Athletwraig. Am wasanaeth i Taekwondo. Y Fflint.
Elaine Owen. Am wasanaeth i blant ag anableddau.Ynys Môn.
Yr Athro Dawood Parker. Rheolwr Gyfarwyddwr Melys Diagnostics. Am wasanaeth i wyddoniaeth a datblygiadau rhyngwladol. Sir Gaerfyrddin.
Justine Anne Pickering. Sefydlydd Tŷ Hapus. Am wasanaeth i bobl gyda Dementia a gwasanaeth elusennol i'r NSPCC. Caerdydd.
Catherine Diane Pickett. Uwch-reolwr trefn lywodraethol ysgolion, Llywodraeth Cymru. Am wasanaeth i ddiogelu plant ysgol. Caerdydd.
Virginia Prifti. Sefydlydd Apêl Lawrence's Roundabout Well. Am wasanaeth elusennau yn y DU a De Affrica. Llanmadog, Abertawe.
Jean Margaret Rowland. Am wasanaeth gwirfoddol i Glwb Anabledd Corfforol ac Abl yng Nghasnewydd. Caerllion, Casnewydd.
Hilda Smith. Am wasanaeth i bobl oedrannus a bregus. Casnewydd.
Anne Christine Thomas. Am wasanaeth i'r gymuned yn ne Cymru. Casnewydd.
Carol Walton. Am wasanaeth i fydwragedd a mamau sy'n bwydo o'r fron. Caerdydd.
Dr Eleanor Williams. Am wasanaeth i ofal iechyd a gwasanaethau elusennol yn ne Cymru a thramor. Abertawe.
Gerald Robert Williams. Ceidwad a thywysydd Yr Ysgwrn, Cartref ei ewythr Hedd Wyn. Trawsfynydd.
John James Williams. Am wasanaeth i rygbi ac elusenau. Pen-y-bont ar Ogwr.
Terry Lynn Williams. Pennaeth Ysgol Gynradd Litchard, Pen-y-Bont ar Ogwr. Y Bont-faen.
Evelyn Ann Winfield. Cyn-Arweinydd Cyngor Cymunedol Cwmbrân. Am wasanaeth i lywodraeth leol a'r gymuned yng Nghwmbrân. Cwmbrân.
Dr David George Edwin Wood. Am wasanaeth i addysg a hyfforddiant ac i'r gymuned yng ngogledd Cymru. Bae Colwyn.
Donald Leslie Baker. Am wasanaeth i'r Gwasanaeth Carchardai a gwaith gwirfoddol i'r rhai gydag anawsterau gweld. Caerdydd.
David Arthur Cargill. Am wasanaeth i'r gymuned yn Radyr a Threforgan. Caerdydd.
Ian Clough. Am wasanaeth i'r gymuned yn Kiagware, Kenya a Coity yn ne Cymru. Pen-y-bont ar Ogwr.
Margaret Winifred Davies. Am wasanaeth i gerddoriaeth a'r gymuned. Y Fenni.
Peter England. Am wasanaeth i'r gymuned yn Y Trallwng. Y Trallwng.
Mark Ellis Grinnall. Am wasanaeth gwirfoddol drwy Paul's Place. Gwndy, Sir Fynwy.
Grenville Ham. Rheolwr Datblygu Prosiect Y Cymoedd Gwyrdd. Am wasanaeth i ynni adnewyddol yng Nghymru. Powys.
Carole Jean Hillman. Am wasanaeth gwirfoddol i Ambiwlans Sant Ioan a'r gymuned yng Ngwent.
Frederick Hobbs. Am wasanaeth i'r gymuned ym Mhrestatyn. Prestatyn.
Denise Kelly. Cyn-Uwch Gynorthwy-ydd Dysgu Ysgol Fabanod Bodnant, Prestatyn. Am wasanaeth i addysg yn Sir Ddinbych. Prestatyn.
Eileen Price. Am wasanaeth i'r gymuned yn Nyffryn Garw, Pen-y-Bont ar Ogwr. Pen-y-Bont ar Ogwr
George Alan Prosper. Am wasanaeth i'r gymuned yn Llysfaen, Caerdydd. Caerdydd.
Sheila Roberts. Am wasanaeth i'r gymuned ym Mwcle, Sir Y Fflint. Yr Wyddgrug.
Wendy Bartlett White. Am wasanaeth i bêl-rwyd yng Nghymru. Caerdydd.
Shirley Williams. Am wasanaeth i gerddoriaeth, y gymuned yng ngorllewin Cymru ac i elusennau. Hwlffordd.
Eileen Younghusband. Am wasanaeth i ddysgu gydol oes yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Penarth, Bro Morgannwg.
Jackie Roberts. Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed Powys
Peter Vaughan. Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru
Michael Collins. Cyfarwyddwr cynorthwyol Datblygu'r Gweithle gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2012