Dyn wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl canfod corff ar ddydd Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Charmaine MacmuirisFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Charmaine Macmuiris ei chanfod ar Ddydd Nadolig

Mae dyn 28 oed sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes 37 oed yng Nghaerfyrddin wedi cael ei gadw yn y ddalfa.

Cafwyd hyd i gorff Charmaine Macmuiris, oedd yn fam i dri, tua 10.50am ar Ddydd Nadolig mewn tŷ ym Maes Yr Ysgol.

Fe ymddangosodd David Thomas O'Sullivan, o Faes Yr Ysgol, Caerfyrddin yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener.

Mae Mr Thomas wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Ms Macmuiris rhwng Rhagfyr 23 a 25.

Roedd teulu Ms Macmuiris yn yr oriel gyhoeddus ac roedd 'na weiddi oddi yno wrth i Mr Thomas ymddangos yn y llys.

Fe fydd o'n ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ar Ionawr 8.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all eu helpu yn eu hymchwiliad i gysylltu â nhw yn lleol ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol