Leanne Wood yn son am ddewisiadau pwysig

  • Cyhoeddwyd
Leanne WoodFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Leanne Wood ei hethol yn arweinydd newydd Plaid Cymru yn ystod 2012

Dywed arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mai helpu'r anabl, yr henoed a'r bregus fydd blaenoriaethau'r blaid yn 2013.

"Rhaid i ni wneud dewisiadau pwysig ar iechyd, ar addysg, oll wedi eu pennu gan yr hyn sy'n digwydd i'r economi," meddai yn ei neges flwyddyn newydd.

"Bydd y dewisiadau a wnawn yn penderfynu cyfeiriad ein cenedl yn y dyfodol.

"Cynaliadwyedd - ein heconomi, ein hamgylchedd, ein hieithoedd a'n cymunedau - fydd yn ganolog i Gymru ac i Blaid Cymru dros y deuddeng mis nesaf," meddai Ms Wood.

Hi gafodd ei hethol fel arweinydd newydd y blaid ym mis Mawrth eleni gan olynu Ieuan Wyn Jones.

"Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb am yr arfau a'r sbardunau polisi a all helpu i lunio'n heconomi, yn ogystal â gwneud y gorau gyda'r adnoddau sydd gennym," ychwanegodd.

"Gyda llymder yn taro cymaint o'n dinasyddion, rhaid i ni sefyll dros bawb yn ein cymdeithas i'w hamddiffyn rhag y toriadau creulon.

Mae'n dweud bod angen "bod yn darian rhag y toriadau o San Steffan sy'n peryglu teuluoedd".

Yn ei neges mae hefyd yn son am yr angen i fynd i'r afael a newid hinsawdd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol