Potsian: Bywydau mewn peryg?

  • Cyhoeddwyd
pysgod
Disgrifiad o’r llun,
Pysgod marw ac offer potsian a ganfuwyd yn ddiweddar gan swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd

Fe allai bywydau pysgotwyr ar hyd a lled Cymru fod mewn perygl oherwydd bod prinder swyddogion yn gwarchod yr afonydd rhag pysgota anghyfreithlon.

Dyna yw'r honiad gan gymdeithasau pysgota ar rifyn cynta'r flwyddyn o raglen materion cyfoes BBC Radio Cymru, Manylu.

Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n gyfrifol am blismona afonydd, ond yn ôl cynrychiolwyr o rai o glybiau pysgota amlycaf Cymru, 'dyw'r corff ddim yn gwneud y gwaith yn ddigon da.

Yn ôl David Williams, aelod blaenllaw o Glwb Pysgota Llandysul, yng Ngheredigion, mae pysgota anghyfreithlon, neu botsian, yn broblem fawr ar afonydd Cymru.

Fel arfer, yr eog yw'r pysgodyn mae'r potswyr am ei ddal.

"Mae gyda chi gangiau o bobl yn mynd mas ac yn lladd pysgod i'w gwerthu nhw i dai bwyta mewn trefi mawr yn Lloegr a chael arian da amdanyn nhw," meddai Mr Williams.

"Mae'r bobl yma yn gallu bod yn beryglus, ac allwch chi ddim disgwyl i bysgotwyr i'w taclo nhw - gwaith Asiantaeth yr Amgylchedd yw gwarchod yr afonydd."

Mae tymor pysgota'r brithyll a'r eog yn rhedeg rhwng Ebrill a Hydref, ond mae gangiau sy'n pysgota'n anghyfreithlon yn tueddu i dargedu afonydd ar yr adeg yma o'r flwyddyn, yn ôl swyddogion clybiau pysgota.

Economi

"Ddylai neb botsian ar unrhyw adeg o'r flwyddyn," meddai David Williams. "Ond, mae e'n beth ofnadwy fod pobl yn gwneud hynny nawr, oherwydd mai dyma'r amser pan mae iâr yr eog yn dodwy wyau, a dyna ddyfodol yr eog a'r afon, ac mae'n holl bwysig i economi ardaloedd fel Llandysul a thu hwnt."

Yn ôl ffigurau'r llywodraeth, mae pysgota yn werth £150 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn, ond ym marn Tony Morris o Glwb Pysgota yr Ogwr, yn ardal Pen-y-bont, 'dyw pysgotwyr ddim yn cael gwerth eu harian gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae Mr Morris yn un o griw o hanner dwsin o aelodau'r clwb sy'n cerdded glannau afonydd yr ardal yn wirfoddol, oherwydd eu bod nhw'n teimlo nad oes digon o bresenoldeb gan feilïaid cyflogedig yr Asiantaeth.

"Rwy'n gorfod talu dros £70 y flwyddyn i Asiantaeth yr Amgylchedd am drwydded, ac mae'r arian yna i fod i fynd i dalu am bobl i edrych ar ôl yr afon," meddai. "Ond, yn y diwedd, rwy'n gwneud y gwaith fy hunan!"

Ond yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd, y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â physgota anghyfreithlon ar afonydd Cymru, yw targedu adnoddau yn seiliedig ar wybodaeth a thystiolaeth.

Mae pysgotwyr yn chwarae rhan annatod yn hyn, ym marn yr Asiantaeth, gan eu bod nhw yn medru trosglwyddo gwybodaeth am ddigwyddiadau amheus, sy'n galluogi swyddogion y corff i fynd ar drywydd troseddwyr mewn ardaloedd lle mae lle i gredu eu bod nhw'n gweithredu.

Yn ôl yr Asiantaeth, mae eu cynlluniau plismona yn gweithio, gan fod bron i 150 o bobl wedi eu herlyn am bysgota yn anghyfreithlon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

• Fe allwch glywed mwy am y stori hon ar Manylu, toc wedi 2 o'r gloch heddiw (Mercher, Ionawr 2) ar BBC Radio Cymru. Ailddarllediad, Sul, Ionawr 6, am 5.30pm.