Galw ar gefnogwyr i oedi
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn annog cefnogwyr Casnewydd i oedi cyn teithio i Henffordd ar gyfer gêm yng nghynghrair Blue Square ddydd Sadwrn.
Oherwydd glaw trwm y diwrnodau diwethaf mae posibilrwydd y bydd y gêm yn cael ei gohirio.
Roedd disgwyl i garfan fawr o gefnogwyr deithio ar hyd y gororau o Gymru.
Mae Casnewydd yn ail yn yr adran ac yn gobeithio esgyn i Ail Adran Cynghrair Lloegr y tymor hwn.
Fe fydd swyddogion yn cynnal profion ar gae Edgar Street yn gynnar fore Sadwrn.
Yna bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â chwaraei'r gêm oedd fod i ddechrau am 12.30 pm
Dywedodd yr uwcharolygydd Charlie Hill: "Rydym yn gofyn i gefnogwyr edrych ar safle we eu clybiau a chadw golwg ar newyddion lleol ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf bore fory. Byddwn yn awgrymu y dylid oedi cyn teithio er mwyn cael mwy o wybodaeth. Nid ydym am weld pobl yn cael siwrne wag."
- Mae Wrecsam sydd yn y trydydd safle yng nghynghrair Blue Sqare gartef yn erbyn Tamworth. Maen nhw dri phwynt y tu ôl i Gasnewydd a hefyd yn cystadlu am gael esgyn i Ail Adran Cynghrair Lloegr. Does dim son fod unrhyw broblem gyda chyflwr y Cae Ras ar gyfer dydd Sadwrn.