Gohirio gêm oddi cartref Casnewydd yn Henffordd

  • Cyhoeddwyd

Mae gêm oddi cartref Casnewydd yn erbyn Henffordd yng nghynghrair Blue Square ddydd Sadwrn wedi ei gohirio.

Oherwydd glaw trwm dros y diwrnodau diwethaf mae 'na ormod o ddwr ar y cae.

Roedd 'na gyngor nos Wener i gefnogwyr Casnewydd oedi cyn teithio i Henffordd ar gyfer gêm.

Fe wnaeth y dyfarnwr archwilio'r cae yn Edgar Street yn gynnar bore Sadwrn a phenderfynu na fyddai'n bosib chwarae.

Roedd disgwyl i garfan fawr o gefnogwyr deithio ar hyd y gororau o Gymru.

Mae Casnewydd yn ail yn yr adran ac yn gobeithio esgyn i Ail Adran Cynghrair Lloegr ar ddiwedd y tymor.

Roedd disgwyl i'r gêm ddechrau am 12.30pm.

Does 'na ddim manylion pryd fydd y gêm yn cael ei ail chwarae.

  • Mae Wrecsam sydd yn y trydydd safle yng nghynghrair Blue Sqare gartef yn erbyn Tamworth. Maen nhw dri phwynt y tu ôl i Gasnewydd a hefyd yn cystadlu am gael esgyn i Ail Adran Cynghrair Lloegr. Does dim son fod unrhyw broblem gyda chyflwr y Cae Ras ar gyfer dydd Sadwrn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol