Hwb i ganol tref Yr Wyddgrug wrth ailwampio Sgwâr Daniel Owen
- Cyhoeddwyd

Mae un o drefi Sir y Fflint yn bwriadu gwario £100,000 yn ailwampio prif sgwâr y dre' er mwyn cynnal digwyddiadau a denu mwy o ymwelwyr.
Mae'r cynllun yn Yr Wyddgrug wedi cael cefnogaeth y rhai yn y dre' sy'n dweud bod angen cael mwy o bobl yno.
Cafodd ymgynghorwyr eu comisiynu i wneud cynlluniau ar gyfer Sgwâr Daniel Owen i'w wneud yn ganolbwynt i'r dref ac yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus.
Yn ôl rheolwr y dref, Dave Hill, mae £100,000 wedi cael ei sicrhau ar gyfer y gwaith drwy gyllid o Ewrop ond y gallai fod angen llawer mwy.
Mae Martin Jones, o Fforwm Busnes Yr Wyddgrug, yn credu bod cynnal digwyddiadau yno yn mynd i ddennu mwy o bobl i'r dref.
Gwyliau
"Mae'n rhaid i ni werthu'r dref gyfan gan fod gan bawb ran ohoni," meddai Mr Jones sy'n rhedeg siop ddillad Vaughan Davies.
"Dwi'n tueddu i feddwl bod busnes yn dod o bob man.
"Os ydi'r caffi yn gwneud yn dda, fe all y perchennog ddod i brynu crys."
Yn gynharach eleni fe wnaeth Gŵyl Fwyd a Diod Yr Wyddgrug ehangu i fwy o ddyddiau ym mis Medi a bwytai lleol yn rhan o lwybr bwyd arbennig yn arwain at y digwyddiad.
Ym mis Tachwedd hefyd cafodd gŵyl gwrw gyntaf ei chynnal yna.
Dywedodd Mr Hill iddo fod yn llwyddiant.
Ac ym mis Hydref mae'r dref yn gartref i ŵyl arall sy'n ehangu, Gŵyl Daniel Owen, sy'n dathlu gwaith yr awdur a'r teiliwr o'r dref.
Archfarchnad
Mae cofgolofn iddo yn Sgwâr Daniel Owen.
Mae disgwyl i'r ymgynghorwyr ddangos eu cynlluniau ar gyfer y sgwâr yn y gwanwyn.
Yn y cyfamser mae disgwyl i gynlluniau ar gyfer archfarchnad Sainsbury's gael ei godi yn y dref fod yn ôl ar yr agenda yn y gwanwyn wedi iddyn nhw brynu hen archfarchnad Kwik Save y llynedd.
"Rydym wedi cael trafodaethau pellach yn ddiweddar gyda Chyngor Sir y Fflint gyda'r bwriad o gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau'r flwyddyn nesaf," meddai Jo Hawley syrfëwr datblygu Sainsbury's.
"Ein gobaith fydd cyflwyno cais am siop fwyd newydd yn Yr Wyddgrug."
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydweithio gyda Chyngor Tref Yr Wyddgrug ar gyfer y cynlluniau i Sgwâr Daniel Owen.
"Mae hwn yn gyfle gwych i ddiweddaru'r dref a chodi delwedd Yr Wyddgrug," meddai Peter Macfarlane, aelod o gabinet y cyngor sir sydd â chyfrifoldeb am adfywio.
"Dwi'n gobeithio y byddwn yn gallu chwarae mwy o fan i annog a denu mwy o ymwelwyr i siopa ac aros yn y dref."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd22 Awst 2012
- Cyhoeddwyd28 Medi 2012