Pryder am lifogydd yn Aberdaugleddau, Aberporth a Ynys Bŷr

  • Cyhoeddwyd
TrebeferedFfynhonnell y llun, Sara Gibson
Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd llifogydd ym Mro Morgannwg yr wythnos diwethaf

Mae glaw trwm wedi arwain at gyhoeddi pum rhybudd llifogydd a degau o rybuddion bod llifogydd yn bosibl yng Nghymru.

Mae'r gwasanaeth tân wedi cael eu galw i achosion o lifogydd yn Aberdaugleddau, Aberporth ac Ynys Bŷr oddi ar arfordir Dinbych-y-Pysgod.

Yn ôl y rhagolygon mae disgwyl mwy o law trwm ddydd Sadwrn a dros nos.

Mae'r rhybuddion llifogydd ar Afonydd Tywi yn Abergwili; Cothi ym Mhontargothi a Phontynyswen; Dyffryn Dyfi, dros Bont Dyfi a'r A487; Dyffryn Conwy ac Afon Ritec yn Ninbych-y-Pysgod.

Hefyd mae nifer o ffyrdd wedi eu heffeithio yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Phowys.

Mae'r A40 wedi cau mewn sawl lle, yn Aberhonddu, Pontsenni, Llandeilo a Chas-blaidd.

Defnyddio cwch

Mae diffoddwyr yn clirio dŵr o dafarn y Priory yn Aberdaugleddau ac mae swyddogion yn trafod pa gamau i'w cymryd oherwydd pryder o lifogydd o bwll mawr o ddŵr.

Fe allai'r dŵr orlifo a lledu i ardal ehangach gan nad yw'r dŵr yn clirio.

Mae chwech o ddiffoddwyr tân o Ddinbych-y-Pysgod wedi eu hanfon i Ynys Bŷr gyda chwch i helpu criw o wirfoddolwyr i daclo llifogydd.

Yn ôl Owain Wyn Evans, sy'n cyflwyno'r tywydd i BBC Cymru, mae'n bosib y bydd mwy o law trwm yn disgwyl yn ystod y dydd.

"Y pryder wrth gwrs yw bod y tir yn dal yn wlyb iawn a dydi lefel yr afonydd ddim wedi cael amser i ddychwelyd i'r lefel arferol.

"Mae gan Y Swyddfa Dywydd rybudd melyn ar draws y rhan fwyaf o Gymru heddiw, rhybudd am law trwm.

"Fe all hyd at 50mm ddisgyn ar dir uchel."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol