Prestatyn yn taro'n ôl i gael gêm gyfartal yn erbyn Bangor
- Cyhoeddwyd
Bangor 3-3 Prestatyn
Ar ôl i'r gêm gael ei gohirio o Ddydd San Steffan fe gafodd y gêm rhwng Prestatyn a Bangor ei gynnal nos Wener yn Stadiwm Nantporth.
Roedd 'na bron i 800 yno i wylio gêm gyffrous a digon o goliau, adlais o'r gêm y llynedd, yr olaf ar Ffordd Farrar.
Bangor aeth ar y blaen wedi 13 munud pan sgoriodd Sion Edwards.
Cafodd Les Davies gôl bum munud yn ddiweddarach ac roedd y Dinasyddion yn gyfforddus 3-0 gyda bron i 20 munud o'r gêm yn weddill wedi i Peter Hoy rwydro'r drydedd.
Ond gyda 12 munud cyn diwedd y gêm daeth Prestatyn yn ôl.
Mae'n debyg i Fangor golli siap a rheolaeth ac mae hynny yn berygl gyda thîm cryf fel Prestatyn.
Llwyddodd Jason Price i rwydo ddwywaith mewn 10 munud cyn i Michael Parker sgorio'r drydedd i sicrhau pwynt yr un i'r clybiau.
Roedd safon y pêl-droed yn dda iawn gyda'r gêm yn cael ei chwarae mewn gwynt cryf.
Roedd Bangor yn lwcus i gael gêm gyfartal gyda Lee Idzi, gôl-geidwad Bangor, wedi gwneud sawl arbedid gwych yn gynharach yn y gêm.