Buddugoliaeth i Gaerdydd yn erbyn Millwall
- Published
Caerdydd 1-0 Millwall
Gyda mantais o bum pwynt ar frig tabl y Bencampwriaeth mae Caerdydd yn agosau at eu nod o ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.
Wedi ennill dwy gêm eisoes dros y Nadolig mae'r Adar Gleision yn gorffen 2012 gyda buddugoliaeth arall.
Cychwynnodd Rudy Gestede ei gêm gyntaf i Gaerdydd ac o fewn wyth munud roedd wedi rhoi ei dîm ar y blaen o foli gan Craig Noone.
Roedd y Ffrancwr yn cychwyn yn lle Heider Helguson.
Bu'n rhaid i David Marshall wneud sawl arbediad i rwystro'r ymwelwyr rhag dod yn gyfartal.
Cafodd Gaerdydd gyfloedd i fynd ymhellach ar y bklaen, er i ymdrechion fel un Craig Bellamy fynd dros y traws.
Dyma oedd 12 buddugoliaeth cartref Caerdydd mewn 13 o gemau'r tymor yma.
A gyda'r clwb sydd ar frig y gynghrair ar ddiwedd y flwyddyn galendr am y saith tymor diwethaf wedi mynd ymlaen i ennill dyrchafiad ar ddiwedd y tymor mae 'na wir obaith y bydd Caerdydd yn ymuno gydag Abertawe yn yr Uwch Gynghrair.
Straeon perthnasol
- Published
- 26 Rhagfyr 2012
- Published
- 22 Rhagfyr 2012
- Published
- 15 Rhagfyr 2012