Abertawe yn cael buddugoliaeth yn erbyn Fulham
- Cyhoeddwyd

Fulham 1-2 Abertawe
Gorffennodd Abertawe gyda buddugoliaeth a thri phwynt arall ar ddiwedd y flwyddyn.
Dyma fuddugoliaeth gampus i'r Elyrch mewn tywydd gaeafol iawn.
Roedd hi'n fuddugoliaeth a oedd yn deyrnged i ddycnwch a chymeriad tîm Michael Laudrup yn hytrach na'u doniau.
Fulham wnaeth feistroli am gyfnodau hir o'r gêm.
Sgoriodd Danny Graham wedi 19 munud i sicrhau buddugoliaeth gyntaf Yr Elyrch yn y gynghrair mewn pum gêm.
Roedd Abertawe ar y blaen ar yr hanner cyn mynd ymhellach ar y blaen o fewn 10 munud cyntaf yr ail hanner pan sgoriodd Jonathan de Guzman.
Ond o fewn pedwar munud llwyddodd Bryan Ruiz i ganfod cefn y rhwyd yn Craven Cottage.
Ond doedd hi ddim yn ddigon i'r tîm cartref sydd wedi ennill un gêm yn unig o'r 12 diwethaf.
Llwyddodd Abertawe i gadw at eu record o ennill yn erbyn Fulham yn yr Uwch Gynghrair ar ôl gwneud y dwbl y tymor diwethaf.
Roedd prif sgoriwr y gynghrair, Miguel Michu wedi anafu a ddim ar gael i'r Elyrch ond gyda Graham yn ôl yn y garfan doedd absenoldeb y Sbaenwr ddim mor ddrwg â hynny.
Ond roedd hi'n gêm i'w anghofio i golgeidwad y tîm cartref gan fod camgymeriadau David Stockdale wedi bod yn allweddol i fuddugoliaeth Abertawe.
Aros yn y nawfed safle mae'r Elyrch.
Straeon perthnasol
- 26 Rhagfyr 2012
- 23 Rhagfyr 2012
- 16 Rhagfyr 2012