Gêm gyfartal i 10 dyn Wrecsam yn erbyn Tamworth

  • Cyhoeddwyd

Wrecsam 2-2 Tamworth

Gorffennodd Wrecsam eu blwyddyn gyda phwynt yn unig o'r gêm yn erbyn Tamworth a hynny gyda 10 dyn hefyd.

Y Dreigiau aeth ar y blaen wedi 26 munud pan sgoriodd Brett Ormerod.

Ond cyn i Wrecsam gael cyfle i fwynhau'r fantais peniodd Connor Gudger y bêl i'r rhwyd o fewn tri munud.

Un yr un oedd hi ar yr hanner.

Saith munud o'r ail ddechrau cafodd capten Wrecsam Dean Keatesei ail gerdyn melyn ac felly ei anfon oddi ar y cae.

Roedd o'n benderfyniad dadleuol a chefnogwyr Wrecsam yn anhapus iawn gyda'r dyfarnwr Anthony Backhouse.

Ond er bod Wrecsam wedi chwarae'r rhan fwyaf o'r ail hanner efo 10 dyn, nhw lwyddodd i fanteisio a mynd ymhellach ar y blaen pan sgoriodd Danny Wright gyda chwarter awr i fynd.

Ond gyda phum munud ar ôl o'r 90 fe wnaeth Scott Barrow ganfod y rhwyd i Tamworth gyda tharan o ergyd a thorri calonau'r Dreigiau.

Gyda gemau Casnewydd a Grimsby wedi'u gohirio mae Wrecsam yn aros yn drydydd yn y tabl.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol