Gwrthdrawiad: Apêl ar ôl i ddyn farw yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion i ddigwyddiad yn Abertawe arweiniodd at farwolaeth dyn.

Tua 5.35am ddydd Sul cafwyd hyd i ddyn yn gorwedd ar lon ogleddol yr A4118, Stryd Dyfatty yn y ddinas.

Aed a'r dyn i Ysbyty Treforys ond bu farw yno yn ddiweddarach o'i anafiadau.

Credir bod y dyn wedi bod mewn gwrthdrawiad â char Audi arian.

Mae dynes 68 oed oedd yn gyrru'r car yn cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymholiadau.

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad ar fyrder gydag unrhyw un a deithiodd ar hyd Stryd Dyfatty rhwng 5am a 5.35am ddydd Sul neu a welodd y cerddwr neu'r car Audi cyn hynny.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r uned plismona ffyrdd ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol