Disgwyl mwy o rybuddion llifogydd wrth i fwy o law trwm ddod

  • Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Afon Tywi orlifo ei glannau ddydd Sadwrn yng Nghaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Afon Tywi orlifo ei glannau ddydd Sadwrn yng Nghaerfyrddin

Mae 'na ddau rybudd llifogydd mewn grym yng Nghymru ddydd Sul gyda disgwyl y bydd glaw trwm yn parhau dros nos.

Mae 'na nifer o rybuddion am lifogydd posib hefyd.

Does 'na ddim adroddiadau am ddifrod o ganlyniad i lifogydd ddydd Sul ond mae amryw o ffyrdd wedi eu heffeithio.

Rhybuddiodd Asiantaeth yr Amgylchedd yn y gallai nifer y rhybuddion llifogydd godi gyda disgwyl mwy o law a'r ffaith bod afonydd eisoes yn llawn.

Mae disgwyl i'r gogledd gael eu heffeithio gyntaf cyn i'r glaw ledu'n ddiweddarach.

Tir gwlyb

"Rydym wedi cael glaw cyson ers Rhagfyr 19," meddai Ceri Davies, rheolwr uned strategol yr Asiantaeth.

"Yn amlwg mae'r tir yn wlyb iawn.

"Rydym yn disgwyl mwy o rybuddion i ddod i rym."

Y ddau rybudd presennol yw un ar Ddyffryn Dyfrdwy Isa o Langollen i Gaer ac yn Ninbych-y-Pysgod, ar hyd Afon Ritec.

Mae gwefan yr asiantaeth yn cynnwys y newyddion diweddara ac yn cael ei diweddaru bob 15 munud.

Mae'r glaw wedi cael effaith ar ffyrdd ym Machynlleth a'r Fenni ddydd Sul yn ôl Traffig Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol