'Dicter' dwy gafodd eu treisio tuag at heddlu Barbados
- Cyhoeddwyd

Mae dynes o Gymru, a gafodd ei threisio yn Barbados, wedi dweud ei bod yn ddig gyda'r heddlu yno ar ôl iddi hi a dynes arall gafodd ei threisio helpu i ryddhau dyn a gafodd ei gyhuddo o'r troseddau.
Ymosodwyd ar Diane Davies o Ynys Môn a Rachel Turner o Sir Hertford o fewn dyddiau i'w gilydd yn 2010.
Cafodd Derick Crawford, 47 oed o Barbados, ei gyhuddo o'r troseddau.
Ond cafodd yr achos yn ei erbyn ei ollwng yn gynharach yn y mis.
Mae Comisiynydd yr Heddlu yn Barbados, Darwin Dottin, yn dweud bod yr achos wedi ei ymchwilio yn drwyadl.
'Hil wahanol'
Ond roedd y ddwy ddynes yn mynnu nad Mr Crawford oedd wedi ymosod arnyn nhw.
Wrth siarad am y tro cyntaf ar ôl i'r achos ddod i ben, dywedodd yr heddwas fod Heddlu Brenhinol Barbados wedi adolygu'r holl wybodaeth ac "nad oes 'na ddim i'm cadw'n effro" yn gysylltiedig â'r achos.
Awgrymodd efallai nad oedd Mrs Davies a Dr Turner wedi adnabod yr ymosodwr "am ei fod o hil wahanol".
Doedd Mrs Davies, 63 oed o Fali, Ynys Môn a Dr Turner, 30 oed sy'n gweithio ym Mhrifysgol India'r Gorllewin, ddim yn deall pam bod yr heddlu yn parhau i fynnu bod Mr Crawford yn euog ar ôl iddyn nhw ddweud bod ganddyn nhw'r dyn anghywir.
Doedd 'na ddim tystiolaeth fforensig chwaith yn cysylltu Mr Crawford gyda'r troseddau.
'Chwerthinllyd'
Fe wnaeth y ddwy ildio'u hawl i aros yn ddienw er mwyn lleisio eu pryderon.
Dywedodd Dr Turner wrth y BBC ei bod bron yn syfrdan gan ymateb yr heddlu.
"Mae'n afresymol ac yn sarhaus i awgrymu na fydden ni'n adnabod yr ymosodwr," meddai.
"Dwi'n pryderu nad oes gan yr heddlu ddiddordeb mewn canfod yr ymosodwr."
Dywedodd Mrs Davies bod hi'n "chwerthinllyd" meddwl bod yr ymchwiliad wedi bod yn "un trwyadl".
"Mae angen i Darwin Dottin ganfod y dyn wnaeth hyn ac ymddiheuro i Rachel a minnau," ychwanegodd.
Fe dreuliodd Mr Crawford 18 mis yn y carchar cyn i'r achos yn ei erbyn gael ei ollwng.
Wedi'r achos dywedodd y byddai'n ceisio am iawndal am gael ei garcharu ar gam am droseddau na wnaeth o eu cyflawni.
Dywedodd hefyd iddo gael ei gornelu i wneud cyfaddefiad.
Straeon perthnasol
- 13 Rhagfyr 2012
- 22 Tachwedd 2012