Y Cymry 'angen ehangu ein gorwelion'

Y Super Furry Animals
Image caption Roedd y Super Furry Animals yn un o'r grwpiau gyfranodd at ddelwedd 'Cool Cymru' yn y 90au

Pam fod y Cymry yn poeni cymaint am gael sêl bendith y diwylliant Seisnig ar ddiwylliant Cymru?

Dyna un o bynciau trafod Menna Baines, golygydd gwadd y Post Cynta' ar Radio Cymru fore Llun, Rhagfyr 31.

Soniodd y llenor a'r golygydd am ddiffyg hyder Cymry Cymraeg yn ein diwylliant ein hunain a'r "awydd parhaus i gael sêl bendith rhywun arall cyn ein bod ni'n gwerthfawrogi'n diwylliant".

Cyfeiriodd yn benodol at y gynulleidfa Saesnig, gan ddweud fod hyn wedi bod yn rhywbeth amlwg ar hyd yr oesoedd, yn enwedig yn Oes Fictoria.

"Mae o'n deillio, siwr o fod, o'r sefyllfa'n bod ni'n genedl fach sydd wedi byw yn hir iawn yng nghysgod cenedl fwy," meddai.

'Gwirioni'

"Dwi'n meddwl fod o'n rhywbeth mae'n rhaid i ni ymddihatru oddi wrtho os ydan ni am fod o ddifri ynglŷn â bod yn genedl weladwy a hyderus yn y byd.

"Dwi ddim am feirniadu unigolion o gwbl am ddilyn eu gyrfa - ac os ydy hynny'n mynd â nhw'r tu allan i Gymru, mae'n rhaid ambell waith, dyna natur eu gwaith nhw.

"Nid am feirniadu hynny ydw i am eiliad, ond mae'n fwy i wneud hefo sut 'da ni'n hunain yng Nghymru'n ymateb i hynny - y duedd yma i wirioni os ydy rhywun yn llwyddo yn y West End, er enghraifft.

"Does dim byd o'i le gyda bod yn falch o'n talentau ond cofiwch pa mor rymus ydy'r cyfryngau yn hyn o beth.

"Dwi'n gweld bai ar ein cyfryngau cenedlaethol am y taeogrwydd 'ma a'r plwyfoldeb metropolitan, mi allwch ei alw fo. Yr amharodrwydd i edrych y tu hwnt i Lundain a falle'r tu hwnt i'r byd Americanaidd a Hollywood.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Gwenllian Grigg yn holi'r newyddiadurwr Huw Edwards am ei brofiadau o weithio yng Nghymru a Llundain.

'Cool Cymru'

"Mi gawson ni 'Cool Cymru' yn y 90au - hynny ydy, yn sgil y grwpiau pop fel Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci ac ati'n llwyddo'n Saesneg.

"Ystyr cŵl yn fanna - roedd o wedi gorfod troi'n Saesneg 'doedd i fod yn cŵl. Ond dwi'n falch o ddweud 'mod i'n gweld fod y sîn roc Gymraeg wedi symud oddi wrth hynny ac mae 'na lawer mwy o hyder ynddon ni'n hunain.

"Ond mae 'na ffordd arall o edrych ar bethau. Pam bod yn rhaid i'n gorwelion ni fod mor gul, pam na edrychwn ni at Ewrop ac ati?

"Mae 'na gorff o'r enw Cyfnewidfa Lên Cymru yn Aberystwyth ac maen nhw'n hyrwyddo a chyfieithu nofelau i ieithoedd Ewrop a thu hwnt.

"Dyna ddangos y ffordd yn fy marn i - pam bod yn rhaid i bopeth stopio yn Llundain?"

"Mae Hywel Teifi Edwards wedi trafod mor loyw'r Prydeingarwch 'ma oedd yn nodweddu Cymry Oes Fictoria, ac mae arna' i ofn nad ydyn ni wedi symud ymlaen ddigon oddi wrtho."