Pibell yn torri: Effaith ar 200 o dai
- Cyhoeddwyd
Mae rhai trigolion ym Mhowys wedi eu cynghori i beidio ag yfed dŵr tap wedi i bibell ddŵr dorri ger Cronfa Llandinam ddydd Sadwrn.
Dros y penwythnos mae'r cyflenwad i 200 o dai a busnesau yn Llanidloes, Caersws, Llandinam a'r Drenewydd wedi bod yn ysbeidiol.
Dywedodd cwmni Hafren Trent nad y tywydd oedd y rheswm am y broblem wreiddiol.
Dechreuodd y broblem fore Sadwrn ond roedd cyflenwad y rhan fwya' wedi ei adfer erbyn y nos.
"Erbyn hyn, mae'r cyflenwad yn ôl," meddai llefarydd.
'Ymddiheuro'
"Hoffen ni ymddiheuro i gwsmeriaid gafodd eu heffeithio dros y penwythnos ond mae ein gweithwyr wedi bod yn brysur ddydd a nos."
Dywedodd nad oedd dŵr rhai cwsmeriaid wedi cyrraedd "y lefel ddisgwyliedig" a bod y cwsmeriaid hynny wedi derbyn dŵr potel ac wedi eu cynghori i ferwi dŵr tap.
"Mae modd defnyddio dŵr tap ar gyfer y bath a'r gawod ond dylid bod yn ofalus yn achos babanod a phlant ifanc."
Dywedodd y byddai llythyr yn cael ei anfon at gwsmeriaid nos Lun.