Telford 0-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, PA
Roedd Danny Wright yn allweddol
Dechreuodd Wrecsam y flwyddyn newydd yn argyhoeddiadol gyda buddugoliaeth bwysig oddi cartref yn Telford yng nghynghrair Blue Square.
Y Dreigiau aeth ar y blaen wedi 24 munud wrth i Danny Wright rwydo gydag ergyd i'r gornel dde isaf wrth i gyflymdra a ffitrwydd yr ymwelwyr greu bylchau.
Daeth Adrian Cieslewicz ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner gan sgorio wedi 85 munud gyda pheniad ar ôl i Nick Rushton greu'r cyfle iddo i selio'r fuddugoliaeth.
Fe wnaeth y perfformiad adleisio'r fuddugoliaeth gyfforddus o 4-1 yn erbyn Telford ar y Cae Ras Ddydd San Steffan.
Straeon perthnasol
- 21 Rhagfyr 2012
- 8 Rhagfyr 2012
- 26 Rhagfyr 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol