Abertawe 2-2 Aston Villa

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl llwyr ddominyddu'r hanner cyntaf gyda Michu yn taro'r postyn ddwywaith, roedd hi'n rhyddhad i'r Elyrch erbyn y diwedd i achub pwynt.

Aeth Abertawe ar y blaen wedi 8 munud wrth i Wayne Routledge ergydio o fewn y cwrt cosbi i ganol y gôl.

Fe ddaeth Villa yn gyfartal ddwy funud cyn yr egwyl wrth i Andreas Weimann anelu'n gywir i gornel chwith isaf y gôl.

Yn ddadleuol rhoddwyd cic gosb i'r ymwelwyr wedi 83 munud am i'r dyfarnwr farnu fod Nathan Dyer wedi gwthio Andreas Weimann. Cyrhaeddodd Christian Benteke y nod.

Ond ni wnaeth yr Elyrch ildio a manteisiodd Danny Graham ar flerwch o fewn y cwrt cosbi wrth ergydio i ganol y gôl wedi 90 munud.

Codi i'r wythfed safle mae'r Elyrch.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol