Birmingham 0-1 Caerdydd
- Published
Gyda mantais o saith pwynt ar frig tabl y Bencampwriaeth mae Caerdydd yn agosáu at eu nod o ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.
Wedi ennill tair gêm dros y Nadolig mae'r Adar Gleision wedi dechrau 2013 gyda buddugoliaeth arall, ac roedd hwb ychwanegol o glywed fod Hull sydd yn yr ail safle dim ond wedi cael gêm ddi-sgôr oddi cartref yn Blackpool.
Sgoriodd Joe Mason ym munudau olaf yr hanner cyntaf mewn gêm gystadleuol iawn ym Mirmingham.
Manteisiodd Mason ar gamgymeriad gan y golwr Jack Butland, a fethodd ddal ei afael ar ergyd Craig Conway.
Daeth y gôl yn erbyn rhediad y chwarae, ac roedd Craig Bellamy yn ysbrydoledig i'r Cymry.
Dyma oedd 13eg buddugoliaeth Caerdydd gartref mewn 14 o gemau'r tymor hwn.
A chyda'r clwb sydd ar frig y gynghrair ar ddiwedd y flwyddyn galendr am y saith tymor diwethaf wedi mynd ymlaen i ennill dyrchafiad ar ddiwedd y tymor mae 'na wir obaith y bydd Caerdydd yn ymuno gydag Abertawe yn yr Uwch Gynghrair.
Straeon perthnasol
- Published
- 26 Rhagfyr 2012
- Published
- 22 Rhagfyr 2012
- Published
- 15 Rhagfyr 2012