Casnewydd 0-5 Forest Green

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed CasnewyddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae hi'n dal yn agos ar frig y gynghrair

Roedd tair gôl gan James Norwood yn allweddol wrth i Forest Green roi crasfa i Gasnewydd ar Ddydd Calan.

O ganlyniad mae Casnewydd yn syrthio o'r ail i'r trydydd safle.

Norwood sgoriodd yn gyntaf cyn i Yan Klukowski ddyblu'r fantais ychydig cyn yr egwyl.

Daeth gôl Reece Styche rhwng dwy arall gan Norwood ar ddiwrnod digalon i'r Alltudion ar Rodney Parade

Roedd y canlyniad yn fwy o syndod gan fod Casnewydd wedi maeddu Forest Green 1-2 oddi cartref ar ddydd San Steffan.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol