Pris tocynnau trên yn codi
- Cyhoeddwyd
Mae teithwyr ar draws Prydain yn talu 4.2% yn fwy am docynnau tymor o Ionawr 2 ymlaen, o ganlyniad i'r cynnydd blynyddol mewn pris tocynnau trên.
Mae tocynnau eraill yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn codi 3.9% ar gyfartaledd.
Dywed ymgyrchwyr fod y newidiadau yn golygu y bydd nifer yn ei chael hi'n anodd fforddio tocynnau trên.
Yn ôl yr Athro Stuart Cole o Ganolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru, Prifysgol Morgannwg, mae tocynnau yng Nghymru yn rhatach nacgmewn lleoedd eraill, a hynny am fod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ryddfraint Arriva.
Mae'r cwmnïoedd eraill yn gweithio gyda llywodraeth San Steffan meddai.
Cyfraniad y trethdalwyr
Yn ôl y gymdeithas sy'n cynrychioli'r cwmnïoedd, ATOC, mae llywodraethau San Steffan ers 2004 wedi dymuno gweld teithwyr yn talu cyfran uwch o gostau rhedeg gwasanaethau trên er mwyn lleihau cyfraniad y trethdalwyr.
Ond yn ôl yr Athro Cole, mae llywodraeth Cymru wedi penderfynu ar y cyd gydag Arriva y byddan nhw'n "cael balans rhwng sybsidi a faint mae'r teithwyr yn talu."
Dywedodd y gweinidog trafnidiaeth yn San Steffan, Norman Baker, fod y llywodraeth wedi gweithredu i leihau'r cynnydd diweddaraf.
Mae'r prisiau sydd yn cael eu rheoleiddio gan lywodraeth San Steffan yn cael eu pennu gan ychwanegu canran ychwanegol at y gyfradd chwyddiant RPI.
Yn wreiddiol roedd y cynnydd i fod yn RPI a 3% - cyfanswm o 6.2%, ond ym mis Hydref, cafodd hyn ei newid i RPI ac 1% - cyfanswm o 4.2%.
Straeon perthnasol
- 11 Rhagfyr 2012
- 23 Tachwedd 2012