BBC Cymru Fyw

Arestio dau ar ôl ymosodiad ym Mancot, Glannau Dyfrdwy

Published
image captionDylai unrhyw dystion gysylltu â'r heddlu ar 101

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i ymosodiad difrifol ar ddyn 21 oed Ddydd Calan am 12:30am.

Roedd yr ymosodiad yn Bank Road, Mancot, Glannau Dyfrdwy ac mae llanc 17 oed a dyn 18 oed, y ddau'n lleol, wedi cael eu harestio.

Mae'r dyn 21 oed mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Dylai unrhyw dystion gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Daclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.