Astudio sut mae dwy iaith yn effeithio ar yr ymennydd

  • Cyhoeddwyd
Sgan MRIFfynhonnell y llun, corbis
Disgrifiad o’r llun,
Y nod yw cadarnhau awgrymiadau bod siaradwyr dwyieithog yn datrys problemau'n well

Bydd gwyddonwyr yn Yr Alban yn astudio sut mae siarad Gaeleg a Saesneg yn effeithio ar yr ymennydd.

Prifysgolion Glasgow a Chaeredin sy'n trefnu'r ymchwil a bydd gwyddonwyr o'r Alban, Gwlad Belg a'r Almaen yn cymryd rhan.

Y nod yw cadarnhau awgrymiadau bod siaradwyr dwyieithog yn datrys problemau'n well a bod eu meddwl yn fwy ystwyth.

Bydd yr astudiaeth yn cynnwys sganiau MRI.

Dywedodd Dr Meike Ramon o Brifysgol Glasgow fod yr ymennydd yn ymateb wrth ddelio â thasgau gwahanol.

"Er enghraifft, mae modd nodi newidiadau cyn ac ar ôl i rywun siarad Gaeleg am gyfnod."

Corfforol

Ym mis Awst roedd ymchwil yn awgrymu bod plant dwyieithog yn perfformio'n well na rhai uniaith.

Roedd 121 o blant naw oed yn gorfod cyflawni tasgau ieithyddol, mathemategol a chorfforol yn Yr Alban a Sardinia.

Y casgliad oedd bod perfformiad 62 o blant dwyieithog "lawer yn well" a Chylchgrawn Rhyngwladol Dwyieithrwydd gyhoeddodd y manylion.

Roedd y plant yn Glasgow'n siarad Gaeleg a Saesneg neu ddim ond Saesneg a'r rhai yn Sardinia'n siarad Sardineg ac Eidaleg neu ddim ond Eidaleg.

Y dasg oedd cofio patrymau blociau lliw, ailadrodd cyfres o rifau, diffinio geiriau a datrys problemau mathemategol.