Jamie Roberts yn wynebu Munster

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Anafodd y chwaraewr 26 oed ei benelin yn erbyn Awstralia yn Rhagfyr.

Bydd canolwr Cymru, Jamie Roberts, yn nhîm y Gleision yn erbyn Munster yn y gêm Pro12 ddydd Sadwrn.

Anafodd y chwaraewr 26 oed ei benelin yn erbyn Awstralia yn Rhagfyr.

Mae disgwyl i Leigh Halfpenny fod yn holliach ar gyfer y gêm yn erbyn y Gwyddelod.

Cafodd anafiadau i'w wddf yn erbyn Awstralia.

Trechodd y Gleision y Dreigiau ar Wyl San Steffan ar ôl colli pedair gêm yn olynol.

Er bod Munster wedi ennill pump allan o chwe gêm yn y Pro12 dim ond un gêm sy' wedi ei hennill gartre' ymhob cystadleuaeth.

Dyw'r Gleision ddim wedi trechu'r Gwyddelod oddi cartre' ers Hydref 2007.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol