Apêl rheilffordd stêm Talyllyn am gymorth
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Dafydd Gwynn
Mae un o reilffyrdd stêm hynaf Cymru yn apelio ar ei chefnogwyr i helpu'n ariannol oherwydd prinder teithwyr.
Mae Rheilffordd Tal-y-llyn yng Ngwynedd yn cael ei chydnabod fel y rheilffordd gyntaf yn y byd i gael ei hachub gan gefnogwyr.
Ond mae rheolwyr yn dweud bod rheilffyrdd stêm yn ei chael hi'n anodd yn yr hinsawdd economaidd.
Mae'r rheilffordd yn bodoli ers y 1860au ac yn cysylltu Tywyn ag Abergynolwyn a Nant Gwernol yn y canolbarth.
Gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y rheilffordd ers y 1950au , ond maen nhw'n pryderu am ei dyfodol.
Arian ychwanegol
Dywedodd David Mitchell, un o'r cyfarwyddwyr, nad oedd 2012 yn flwyddyn dda iawn iddyn nhw.
"Roedd 'na 9% yn llai o ymwelwyr yma ond mae'r costau yn dal i godi.
"Mae angen gwella'r refeniw a denu mwy o ymwelwyr."
Mae hyn meddai yn golygu cysylltu gyda holl aelodau'r gymdeithas a gofyn am arian.
Dywedodd bod y rheilffordd, fel nifer o fusnesau yng Nghymru ac atyniadau ymwelwyr, yn gorfod cynnal yr achos mewn amgylchiadau anodd.
"Rai blynyddoedd yn ôl roedd rhaid i ni leihau nifer y staff," meddai.
Cronfa argyfwng
"Roedd hwn yn newid radical i ni.
"Fel y rheilffyrdd i gyd, rydym yn chwilio am ffyrdd o arbed arian.
"Mae 'na ddau ddewis arall, ceisio cael mwy o ymwelwyr sy'n anodd am ein bod mewn lleoliad eitha' gwledig a'r ail yw gofyn am fwy o arian."
Nid dyma'r rheilffordd gyntaf i apelio am arian.
Yn 2011 fe sefydlwyd cronfa argyfwng ar gyfer rheilffordd Y Friog ger Tywyn ar ôl i un o'r prif noddwyr farw.
Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr, David Room, mai dyma yw eu diddordeb a'u bod yn fodlon rhoi mwy o arian er mwyn i'r rheilffordd barhau.
"Mae gan bobl ddiddordebau lle mae'n costio iddyn nhw ac felly mewn sefyllfa fel yma dwi ddim yn meindio rhoi'r arian er mwyn cadw'r lle ar agor a chael parhau i ddod yma."
Dywedodd un arall, Nigel Adams, nad yw'r ardal yn un wych ar gyfer yr economi ac felly'r diwydiant twristiaeth a'r rheilffordd ydi un o'r prif atyniadau.
"Mae 'na tua 45,000 o deithwyr bob blwyddyn yn dod yma ac felly yn denu arian sylweddol i'r ardal wrth iddyn nhw ddod yma i aros a gwario eu harian.
"Yn ogystal rydan ni'r gwirfoddolwyr angen lle i aros a bwyd."
Dywedodd Mr Mitchell y gallai'r rheilffordd arbed £11,000 y flwyddyn drwy redeg llai o drenau yn ystod cyfnodau tawel ond nad oedd yn credu y byddai hynny yn ateb tymor hir.
Mae hefyd yn dweud bod yr ymateb i'r apêl ariannol eisoes wedi bod yn dda iawn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2000