Mesurau arbennig ar ben yn Ysgol Maesydre wedi 18 mis

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Maesydre, Y TrallwngFfynhonnell y llun, Cyngor Powys
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Estyn bod 'na "welliannau sylweddol" yn Ysgol Maesydre

Mae trefn mesurau arbennig wedi dod i ben mewn ysgol ym Mhowys wedi 18 mis.

Mae yna tua 190 o ddisgyblion yn Ysgol Maesydre Y Trallwng.

Wedi archwiliad ym mis Mai 2011 fe nodwyd bod yr ysgol yn methu, a bod y perfformiad yn anfoddhaol.

Ond ar ôl arolwg pellach ym mis Tachwedd dywedodd Estyn bod "gwelliannau sylweddol" wedi bod ar ôl penodi pennaeth newydd.

Gadawodd y pennaeth blaenorol ym mis Rhagfyr 2011.

Cyn i Russell Cadwallader gychwyn ar ei waith ym mis Ebrill 2012 fe gafwyd pennaeth dros dro.

Yn yr adroddiad ym mis Mai 2011 dywedodd Estyn bod 'na agweddau da yn yr ysgol ond bod 'na bod nifer o nodweddion anfoddhaol.

Gwelliannau digonol

Ar y pryd dywedodd arolygwyr fod rhaid cyflwyno mesurau arbennig oherwydd "safon isel cyffredinol".

Cafodd cynllun gweithredu ei lunio gan yr ysgol a Chyngor Powys i ateb y problemau.

Ond wedi ymweliad ym mis Tachwedd dywedodd adroddiad Estyn bod yr ysgol "wedi gwneud gwelliannau digonol mewn perthynas â'r argymhellion wedi'r ymchwiliad ym mis Mai 2011.

"O ganlyniad mae'r Arolygwyr yn tynnu'r mesurau arbennig oddi ar yr ysgol.

"Ers penodi pennaeth newydd ym mis Ebrill 2012, mae 'na welliant sylweddol wedi bod yn yr ysgol.

"Mae'r pennaeth, gyda chefnogaeth effeithiol yr uwch dîm rheoli, wedi llwyddo i ddod a'r holl staff a llywodraethwyr at ei gilydd i weithio fel tîm.

"Mae agwedd yr ysgol gyfan mewn amser byr iawn wedi cael effaith gadarnhaol ar safon disgyblion a'u lles."

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod cynnydd da wedi ei wneud i ateb bron iawn yr holl flaenoriaethau yn y cynllun a gafodd ei greu wedi'r arolwg cyntaf.

Ond doedd rhai gwelliannau heb gael digon o amser er mwyn dylanwadu'n llawn ar waith yr ysgol, ychwanegodd Estyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol