Pont newydd yn 'lleihau'r pwysau'
- Cyhoeddwyd

Mae cyfyngiad pwysau ar bont, oedd yn golygu taith ychwanegol o 10 milltir i rai gyrwyr, wedi dod i ben.
Roedd cyfyngiad o dair tunnell fetrig ar Bont y Goron ers 1999 oedd yn cysylltu Cwmtwrch a Phen Rhiwfawr yng Nghwm Tawe.
Yn ystod y Nadolig codwyd pont ddur yn ei lle a daeth prosiect £725,000 i ben.
Mae Castell-nedd Port Talbot a Phowys wedi cytuno i rannu costau adeiladu a chynnal a chadw.
'Anghyfleustra'
Roedd y gwaith wedi dechrau ym Mehefin a bydd y bont ar gau am ddiwrnod fel bod modd gosod arwyneb newydd.
Dywedodd arweinydd Castell-nedd Port Talbot, Ali Thomas: "Oherwydd natur y gwaith roedd rhywfaint o anghyfleustra i bobol leol.
"Diolch yn fawr iddyn nhw am fod yn oddefgar."
Dywedodd arweinydd Powys, David Jones: "Rwy'n falch iawn bod y ddau gyngor wedi ailadeiladu'r bont a chadw'r cysylltiad pwysig rhwng dau bentref ar y ffin.
"Mae pob cyngor yn ystyried sut mae modd bod yn fwy effeithlon ac mae hon yn enghraifft dda o bartneriaeth er lles cymunedau lleol."