Beiciwr modur wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur 22 oed wedi marw oherwydd gwrthdrawiad â char brynhawn Mercher ym Mhont-y-pŵl.
Cafodd yr heddlu eu galw am 12.55pm oherwydd gwrthdrawiad rhwng beic modur glas Yamaha a char Volkswagen Golf gwyrdd ar Heol Penygarn.
Aed â'r beiciwr lleol i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd lle cyhoeddwyd ei fod wedi marw.
Dylai tystion ffonio 101 neu 01633 642404.