Cynllun caer Rufeinig yn Sir y Fflint gam yn nes
- Published
Dywed dyn o Sir y Fflint ei fod gam yn nes at wireddu ei freuddwyd o addasu hen chwarel yn gaer Rufeinig.
Mae Paul Harston o Gaergwrle wedi sicrhau £200,000 er mwyn diogelu'r tir yn Yr Hôb ar y ffin rhwng Wrecsam a Sir y Fflint.
Mae Mr Harston yn gobeithio cael caniatâd cynllunio yn fuan.
Mae o eisoes yn cynnal atyniad twristiaeth llwyddiannus yng Nghaer, Teithiau Rhufeinig.
Gwireddu'r freuddwyd
Ond mae'n freuddwyd plentyndod iddo greu cymuned Rufeinig.
Cwmni Hanson sy'n berchen ar y safle sy'n cael ei werthu i'r fenter gymdeithasol.
Mae Mr Harston eisoes wedi cael £50,000 mewn gwobr gan Fanc Barclays wedi cystadleuaeth ar gyfer busnesau bach.
Dywedodd y byddai'r atyniad yn "creu byd o'r Ganrif Gyntaf ar gyfer plant ac oedolion".
"Y gobaith yw gallu cymryd drosodd y safle erbyn mis Chwefror neu Fawrth ac yna fe allwn ni wneud cais cynllunio i newid defnydd y safle.
"Y disgwyl yw y byddwn ni'n cychwyn datblygu'r safle o fis Medi ymlaen."
Dywedodd bod 'na dipyn o waith i'w wneud, gan gynnwys clirio'r safle a'i gael yn fwy addas i'r Ganrif Gyntaf, gan gynnwys plannu'r planhigion oedd yn bodoli yng nghyfnod y Rhufeiniaid.
"Mae'n bwysig bod y gymuned leol yn gefn i ni er mwyn gwireddu'r freuddwyd," ychwanegodd.
Am 60 mlynedd bu cloddio am fwynau yn yr hen chwarel sydd ar y safle 90 acer.