Cadwraethwyr yn erbyn cynllun
- Cyhoeddwyd
Mae cadwraethwyr wedi honni y bydd cynllun hydro-electrig gwerth £100 miliwn ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri yn sbwylio ardal hardd.
Dywedodd yr Open Spaces Society eu bod yn erbyn cynllun Glyn Rhonwy oherwydd y byddai'n "ddolur i'r llygad".
Yn ôl y cwmni Quarry Battery o Loegr, fe fydden nhw'n gwneud popeth i leihau unrhyw effeithiau o'r fath.
'Yn siomedig'
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr Open Spaces Society, Kate Ashbrook: "Rydym yn siomedig nad oes cyfeiriad at dir cyffredin yn y prif ddogfennau sy'n gysylltiedig â'r cais.
"Ac rydym yn annog y cyngor i wrthod y cais am ei fod yn anaddas mewn ardal o harddwch naturiol.
Mae'r cynllun yn seiliedig ar bwerdy trydan dŵr Dinorwig yn Llanberis.
Yno, mae dŵr yn cael ei bwmpio i fyny i'r llyn ar ben y mynydd pan mae trydan yn rhad.
Wedyn mae'n cael ei ryddhau i lawr drwy dyrbin er mwyn creu a gwerthu trydan.
Dywedodd Dave Holmes, rheolwr gyfarwyddwr Quarry Battery Company,: "Mae'r cynllun yn cydfynd â'r ardal leol lle mae tomenni llechi a llynnoedd.
'Creu swyddi'
"Bydd yn creu swyddi ac yn ecogyfeillgar.
"Mae'r Adran Ynni a Hinsawdd a'r Ymddiriedolaeth Carbon yn cydnabod bod storio a phwmpio yn lleihau allyriadau carbon.
"Bydd ychydig o dir yn cael ei golli ond rydym yn trafod tir yn ei le â thirfeddianwyr lleol."
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor sir: "Byddwn yn ystyried y cais yn unol â pholisïau cynllunio, gan gynnwys ymatebion i'r broses ymgyngori ...
"Bydd datblygu corfforol ar dir cyffredin angen caniatâd Stad y Goron."
Straeon perthnasol
- 7 Rhagfyr 2012
- 29 Mehefin 2012