Dim newid i docynnau trên yn oriau brig
- Cyhoeddwyd

Mae pwyllgor o Aelodau Seneddol wedi dweud na ddylid cyflwyno newidiadau i brisiau tocynnau trên yn ystod yr oriau brig.
Mae tocynnau eisoes yn ddrutach rhwng 7am a 10am a rhwng 4pm a 5pm ond mae yna awgrym y dylid cyflwyno amrywiaethau pellach mewn ymgais i geisio rheoli nifer y teithwyr yn ystod yr oriau hynny.
Ond yn ôl adroddiad y Pwyllgor Dethol Seneddol ar Drafnidiaeth, fe fyddai hynny yn dreth ar gymudwyr sy'n gorfod teithio ar drenau yn ystod adegau prysur, nifer o'r rheiny ar gyflogau isel.
Mae Llywodraeth San Steffan yn cynnal adolygiad o brisiau tocynnau sydd i fod i gael ei gwblhau erbyn mis Mai mewn ymdrech i leihau cyfraniad trethdalwyr at gost cynnal gwasanaethau trên.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Simon Burns y byddai angen i unrhyw newidiadau a gyflwynir o ganlyniad i'r adolygiad fod yn rhai "cytbwys a theg".
Ar y Post Cyntaf dywedodd yr Athro Stuart Cole o Ganolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru, Prifysgol Morgannwg, fod prisiau uwch yn ystod yr oriau brig yn debyg o barhau a hynny am nad yw Llywodraeth San Steffan am gynyddu cyfraniad y trethdalwyr tuag at gost rhedeg gwasanaethau trên ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2012