Trywanu i farwolaeth yn Abertawe: Heddlu'n cyhuddo dyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn 43 oed o ymgais i lofruddio.
Cafodd yr heddlu eu galw am 3.35am Ddydd Calan wedi i dri gael eu trywanu yn ardal Mayhill yn Abertawe.
Mae dau ddyn 24 a 44 oed yn Ysbyty Treforys a chafodd menyw 39 oed ei rhyddhau o'r ysbyty.
Bydd y dyn gerbron Ynadon Abertawe ddydd Gwener.