Cefngowyr i ddewis pris gêm bêl-droed ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd

Caiff cefnogwyr pêl-droed gyfle arbennig i weld gêm ddydd Sadwrn am bris o'u dewis nhw.
Bwriad Clwb Pêl-Droed Port Talbot yw denu mwy o bobl i wylio'r gemau.
Mae'r clwb yn croesawu'r Bala ddydd Sadwrn yn Uwchgynghrair Cymru.
Y cynllun unigryw newydd "Talwch Faint a Fynnoch" ydi'r diweddara i ddenu mwy o gefnogwyr i Stadiwm GenQuip.
"Rydym wedi trio sawl peth dros y tymhorau diwethaf," eglurodd cadeirydd y clwb, Andrew Edwards.
'Diffyg cefnogaeth'
"Does yr un wedi llwyddo fel y byddwn ni wedi dymuno.
"Mae hwn yn gynllun newydd, gwahanol a gobeithio y daw ymateb positif ohono.
"Rydym wedi bod yn siomedig gyda'r diffyg cefnogaeth yn ystod y tymor ac mae'r chwaraewyr a'r rheolwr yn haeddu gwell.
"Rydym yn chwarae safon dda o bêl-droed ac mae'n siomedig nad ydi'r cyhoedd dyn cefnogi Uwchgynghrair Cymru a'r clybiau."
Eglurodd bod y clwb yn un cyfeillgar a theuluol a'u bod yn gwneud lot o waith gyda'r gymuned.
"Drwy redeg y cynllun yma rydym yn gobeithio y bydd pobl yn dod yma ac yn newid eu meddwl," ychwanegodd.
Fe fydd y gêm yn cychwyn am 2.30pm.